Salmau 85
Beibl William Morgan
I’r Pencerdd, Salm meibion Cora.
85 Graslon fuost, O Arglwydd, i’th dir: dychwelaist gaethiwed Jacob. 2 Maddeuaist anwiredd dy bobl: cuddiaist eu holl bechod. Sela. 3 Tynnaist ymaith dy holl lid: troaist oddi wrth lidiowgrwydd dy ddicter. 4 Tro ni, O Dduw ein hiachawdwriaeth, a thor ymaith dy ddigofaint oddi wrthym. 5 Ai byth y digi wrthym? a estynni di dy soriant hyd genhedlaeth a chenhedlaeth? 6 Oni throi di a’n bywhau ni, fel y llawenycho dy bobl ynot ti? 7 Dangos i ni, Arglwydd, dy drugaredd, a dod i ni dy iachawdwriaeth. 8 Gwrandawaf beth a ddywed yr Arglwydd Dduw: canys efe a draetha heddwch i’w bobl, ac i’w saint: ond na throant at ynfydrwydd. 9 Diau fod ei iechyd ef yn agos i’r rhai a’i hofnant; fel y trigo gogoniant yn ein tir ni. 10 Trugaredd a gwirionedd a ymgyfarfuant; cyfiawnder a heddwch a ymgusanasant. 11 Gwirionedd a dardda o’r ddaear; a chyfiawnder a edrych i lawr o’r nefoedd. 12 Yr Arglwydd hefyd a rydd ddaioni; a’n daear a rydd ei chnwd. 13 Cyfiawnder a â o’i flaen ef; ac a esyd ei draed ef ar y ffordd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.