Salmau 26
Beibl William Morgan
Salm Dafydd.
26 Barn fi, Arglwydd; canys rhodiais yn fy mherffeithrwydd: ymddiriedais hefyd yn yr Arglwydd: am hynny ni lithraf. 2 Hola fi, Arglwydd, a phrawf fi: chwilia fy arennau a’m calon. 3 Canys dy drugaredd sydd o flaen fy llygaid: ac mi a rodiais yn dy wirionedd. 4 Nid eisteddais gyda dynion coegion; a chyda’r rhai trofaus nid af. 5 Caseais gynulleidfa y drygionus; a chyda’r annuwiolion nid eisteddaf. 6 Golchaf fy nwylo mewn diniweidrwydd: a’th allor, O Arglwydd, a amgylchynaf: 7 I gyhoeddi â llef clodforedd, ac i fynegi dy holl ryfeddodau. 8 Arglwydd, hoffais drigfan dy dŷ, a lle preswylfa dy ogoniant. 9 Na chasgl fy enaid gyda phechaduriaid, na’m bywyd gyda dynion gwaedlyd: 10 Y rhai y mae ysgelerder yn eu dwylo, a’u deheulaw yn llawn gwobrau. 11 Eithr mi a rodiaf yn fy mherffeithrwydd: gwared fi, a thrugarha wrthyf. 12 Fy nhroed sydd yn sefyll ar yr uniawn: yn y cynulleidfaoedd y’th fendithiaf, O Arglwydd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.