Salmau 6
Beibl William Morgan
I’r Pencerdd ar Neginoth ar y Seminith, Salm Dafydd.
6 Arglwydd, na cherydda fi yn dy lidiowgrwydd, ac na chosba fi yn dy lid. 2 Trugarha wrthyf, Arglwydd: canys llesg ydwyf fi: iachâ fi, O Arglwydd; canys fy esgyrn a gystuddiwyd. 3 A’m henaid a ddychrynwyd yn ddirfawr: tithau, Arglwydd, pa hyd? 4 Dychwel, Arglwydd, gwared fy enaid: achub fi er mwyn dy drugaredd. 5 Canys yn angau nid oes goffa amdanat: yn y bedd pwy a’th folianna? 6 Diffygiais gan fy ochain; bob nos yr ydwyf yn gwneuthur fy ngwely yn foddfa: yr ydwyf fi yn gwlychu fy ngorweddfa â’m dagrau. 7 Treuliodd fy llygad gan ddicter: heneiddiodd oherwydd fy holl elynion. 8 Ciliwch oddi wrthyf, holl weithredwyr anwiredd: canys yr Arglwydd a glywodd lef fy wylofain. 9 Clybu yr Arglwydd fy neisyfiad: yr Arglwydd a dderbyn fy ngweddi. 10 Gwaradwydder a thralloder yn ddirfawr fy holl elynion: dychweler a chywilyddier hwynt yn ddisymwth.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.