Salmau 58
Beibl William Morgan
I’r Pencerdd, Al‐taschith, Michtam Dafydd.
58 Ai cyfiawnder yn ddiau a draethwch chwi, O gynulleidfa? a fernwch chwi uniondeb, O feibion dynion? 2 Anwiredd yn hytrach a weithredwch yn y galon: trawster eich dwylo yr ydych yn ei bwyso ar y ddaear. 3 O’r groth yr ymddieithriodd y rhai annuwiol: o’r bru y cyfeiliornasant, gan ddywedyd celwydd. 4 Eu gwenwyn sydd fel gwenwyn sarff: y maent fel y neidr fyddar yr hon a gae ei chlustiau; 5 Yr hon ni wrendy ar lais y rhinwyr, er cyfarwydded fyddo y swynwr. 6 Dryllia, O Dduw, eu dannedd yn eu geneuau: tor, O Arglwydd, gilddannedd y llewod ieuainc. 7 Todder hwynt fel dyfroedd sydd yn rhedeg yn wastad: pan saetho eu saethau, byddant megis wedi eu torri. 8 Aed ymaith fel malwoden dawdd, neu erthyl gwraig; fel na welont yr haul. 9 Cyn i’ch crochanau glywed y mieri, efe a’u cymer hwynt ymaith megis â chorwynt, yn fyw, ac yn ei ddigofaint. 10 Y cyfiawn a lawenycha pan welo ddial: efe a ylch ei draed yng ngwaed yr annuwiol. 11 Fel y dywedo dyn, Diau fod ffrwyth i’r cyfiawn: diau fod Duw a farna ar y ddaear.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.