Salmau 11
Beibl William Morgan
I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
11 Yn yr Arglwydd yr wyf yn ymddiried: pa fodd y dywedwch wrth fy enaid, Eheda i’ch mynydd fel aderyn? 2 Canys wele, y drygionus a anelant fwa, paratoesant eu saethau ar y llinyn; i saethu yn ddirgel y rhai uniawn o galon. 3 Canys y seiliau a ddinistriwyd; pa beth a wna y cyfiawn? 4 Yr Arglwydd sydd yn nheml ei sancteiddrwydd; gorseddfa yr Arglwydd sydd yn y nefoedd: y mae ei lygaid ef yn gweled, ei amrantau yn profi meibion dynion. 5 Yr Arglwydd a brawf y cyfiawn: eithr cas gan ei enaid ef y drygionus, a’r hwn sydd hoff ganddo drawster. 6 Ar yr annuwiolion y glawia efe faglau, tân a brwmstan, a phoethwynt ystormus: dyma ran eu ffiol hwynt. 7 Canys yr Arglwydd cyfiawn a gâr gyfiawnder: ei wyneb a edrych ar yr uniawn.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.