Lefiticus 21
Beibl William Morgan
21 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Llefara wrth yr offeiriaid, meibion Aaron, a dywed wrthynt, Nac ymhaloged neb am y marw ymysg ei bobl. 2 Ond am ei gyfnesaf agos iddo; am ei fam, am ei dad, ac am ei fab, ac am ei ferch, ac am ei frawd, 3 Ac am ei chwaer o forwyn, yr hon sydd agos iddo, yr hon ni fu eiddo gŵr: am honno y gall ymhalogi. 4 Nac ymhaloged pennaeth ymysg ei bobl, i’w aflanhau ei hun. 5 Na wnânt foelni ar eu pennau, ac nac eilliant gyrrau eu barfau, ac na thorrant doriadau ar eu cnawd. 6 Sanctaidd fyddant i’w Duw, ac na halogant enw eu Duw: oherwydd offrymu y maent ebyrth tanllyd yr Arglwydd, a bara eu Duw; am hynny byddant sanctaidd. 7 Na chymerant buteinwraig, neu un halogedig, yn wraig: ac na chymerant wraig wedi ysgar oddi wrth ei gŵr; oherwydd sanctaidd yw efe i’w Dduw. 8 A chyfrif di ef yn sanctaidd; oherwydd bara dy Dduw di y mae efe yn ei offrymu: bydded sanctaidd i ti; oherwydd sanctaidd ydwyf fi yr Arglwydd eich sancteiddydd.
9 Ac os dechrau merch un offeiriad buteinio, halogi ei thad y mae: llosger hi yn tân. 10 A’r offeiriad pennaf o’i frodyr, yr hwn y tywalltwyd olew’r eneiniad ar ei ben, ac a gysegrwyd i wisgo’r gwisgoedd, na ddiosged oddi am ei ben, ac na rwyged ei ddillad: 11 Ac na ddeued at gorff un marw, nac ymhaloged am ei dad, nac am ei fam: 12 Ac nac aed allan o’r cysegr, ac na haloged gysegr ei Dduw; am fod coron olew eneiniad ei Dduw arno ef: myfi yw yr Arglwydd. 13 A chymered efe wraig yn ei morwyndod. 14 Gwraig weddw, na gwraig wedi ysgar, nac un halogedig, na phutain; y rhai hyn na chymered: ond cymered forwyn o’i bobl ei hun yn wraig. 15 Ac na haloged ei had ymysg ei bobl: canys myfi yw yr Arglwydd ei sancteiddydd ef.
16 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 17 Llefara wrth Aaron, gan ddywedyd, Na nesaed un o’th had di trwy eu cenedlaethau, yr hwn y byddo anaf arno, i offrymu bara ei Dduw: 18 Canys ni chaiff un gŵr y byddo anaf arno nesáu; y gŵr dall, neu’r cloff, neu’r trwyndwn, neu’r neb y byddo dim gormod ynddo; 19 Neu’r gŵr y byddo iddo droed twn, neu law don; 20 Neu a fyddo yn gefngrwm, neu yn gor, neu â magl neu bysen ar ei lygad, neu yn grachlyd, neu yn glafrllyd, neu wedi ysigo ei eirin. 21 Na nesaed un gŵr o had Aaron yr offeiriad, yr hwn y byddo anaf arno, i offrymu ebyrth tanllyd yr Arglwydd: anaf sydd arno; na nesaed i offrymu bara ei Dduw. 22 Bara ei Dduw, o’r pethau sanctaidd cysegredig, ac o’r pethau cysegredig, a gaiff efe ei fwyta. 23 Eto nac aed i mewn at y wahanlen, ac na nesaed at yr allor, am fod anaf arno; ac na haloged fy nghysegroedd: canys myfi yw yr Arglwydd eu sancteiddydd hwynt. 24 A llefarodd Moses hynny wrth Aaron ac wrth ei feibion, ac wrth holl feibion Israel.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.